ⓘ Traethawd ymchwil

                                     

ⓘ Traethawd ymchwil

Traethawd hir a gyflwynir fel rhan o radd academaidd yw traethawd ymchwil, thesis, traethawd estynedig, neu draethawd doethurol. Ymdriniaeth gan yr awdur o bwnc penodol yw hi, syn cyflwyno ymchwil, darganfyddiadau a chasgliadau. Mae ei strwythur a chynnwys yn amrywio yn ôl sefydliad addysg, ond yn aml maent yn cynnwys crynodeb, adolygiad llenyddol, a llyfryddiaeth yn ogystal â phrif gorff y gwaith. Maen rhaid i rai myfyrwyr gwblhau cynnig ymchwil cyn cyflwyno eu traethawd ymchwil.

Mae defnydd y termau amrywiol am y math hwn o waith yn amrywio yn ôl gwlad. Mewn prifysgolion y Deyrnas Unedig, cyflwynir traethawd hir neu draethawd estynedig Saesneg: dissertation fel rhan o radd israddedig neu weithiau gradd meistr ddysgedig, a chyflwynir traethawd ymchwil neu thesis fel rhan o radd meistr ymchwil neu ddoethuriaeth a elwir weithiau yn draethawd doethurol yn achos doethuriaeth.