ⓘ Athroniaeth ddadansoddol

                                     

ⓘ Athroniaeth ddadansoddol

Athroniaeth syn pwysleisio iaith a rhesymeg wrth ddadansoddi cysyniadau yw athroniaeth ddadansoddol. Gall y term gyfeirion fwy penodol at fudiad amlwg yn athroniaeth y gwledydd Saesneg eu hiaith ac yn Llychlyn a darddodd or traddodiad empiraidd. Datblygodd sawl system athronyddol dadansoddol yn yr 20g, gan gynnwys atomiaeth resymegol, positifiaeth resymegol, a dadansoddiad iaith gyffredin.

Fei chyferbynnir yn ei hanfod ag athroniaeth ddamcaniaethol a metaffiseg, ac fel mudiad neu gylch o ysgolion meddwl fei chyferbynnir ag athroniaethau cyfandirol megis ffenomenoleg a dirfodaeth.