ⓘ Empiriaeth

                                     

ⓘ Empiriaeth

Damcaniaeth athronyddol syn dibynnu ar brofiad fel ffynhonnell gwybodeth yw empiriaeth neu weithiau profiadaeth. Modd o resymu a posteriori ywr dull empiraidd syn dibynnu ar dystiolaeth a gaffaelir drwy arsylwi ac arbrofi. Cafodd yr athrawiaeth epistemolegol hon ei datblygu gan athronwyr o wledydd Prydain ac Iwerddon yn bennaf, gan gynnwys Locke, Berkeley a Hume, yn adwaith ir rhesymolwyr a honodd fodolaeth gwybodaeth a priori. Ir mwyafrif o empiryddion, mae profiad yn cynnwys ystyriaeth fewnol a meddyliau yn ogystal â phrofiad y synhwyrau. Mae empiriaeth yn gwadu bodolaeth syniadau greddfol, ac yn mynnu bod pob syniad yn tarddu o brofiad ac felly mae ein holl wybodaeth or byd yn ddealltwriaeth sydd wedi ei chyffredinoli o achosion neilltuol ein bywydau.

Yn ôl damcaniaeth empiraidd ystyr, mae ystyron i eiriau dim ond ir graddau maent yn cyfleu cysyniadau. Ymdrechar empiryddion i osod gwybodaeth a posteriori yn sail ir holl gysyniadau yr ydym yn eu deall. Yn ôl damcaniaeth empiraidd gwybodaeth, neu ddamcaniaeth cyfiawnhâd, dibynna credoau ar brofiad iw cyfiawnháu. Gall y berthynas rhwng y ddau safbwynt hwn fod yn gymhleth: mae nifer o empiryddion yn cydnabod rhagosodiadau a priori megis gwirioneddau mathemategol a rhesymegol ond yn gwadu cysyniadau a priori ; dim ond ychydig o athronwyr syn derbyn cysyniadau a priori ond syn gwadu rhagosodiadau a priori. John Stuart Mill oedd yr athronydd cyntaf i drin hyd yn oed deddfau mathemateg yn ganlyniad i gyffrediniadau ein profiad.

Mae empiriaeth yn amau dibynadwyedd awdurdod, sythwelediad, dyfaliad ar dychymyg, a rhesymu o natur haniaethol, damcaniaethol, a systemig.